Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 15 Mehefin 2022

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
12877


78

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 14.18

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Atebwyd cwestiynau 5 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.13

Atebwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd

Carolyn Thomas (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi dyfodol yr hediadau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn?

Atebwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd

Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda gweithredwyr rheilffyrdd ynghylch y posibilrwydd o darfu ar wasanaethau rheilffyrdd oherwydd cyngherddau Stereophonics a Tom Jones yng Nghaerdydd y penwythnos hwn?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.37

Gwnaeth Darren Millar ddatganiad am - 40 mlynedd ers ddiwedd Rhyfel y Falkland (14 Mehefin)

Gwnaeth Cefin Campbell ddatganiad am - Teyrnged i Phil Bennett

Gwnaeth Sam Rowlands ddatganiad am - Wythnos Iechyd Dynion (13-19 Mehefin)

</AI5>

<AI6>

5       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru

Dechreuodd yr eitem am 15.43

NDM8024 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mawrth 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf

Dechreuodd yr eitem am 16.19

NDM8025 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ‘Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ebrill 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl Plaid Cymru - Strategaeth hydrogen

Dechreuodd yr eitem am 17.06

NDM8027 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) pwysigrwydd datblygu'r broses o gynhyrchu hydrogen gwyrdd i helpu i ryddhau potensial Cymru o ran ynni adnewyddadwy i ddatgarboneiddio ynni, helpu i ddisodli tanwydd ffosil a helpu i ddarparu ateb hirdymor i'r argyfwng costau byw;

b) y gall datblygu'r sector hydrogen helpu i drawsnewid economi gylchol a sylfaenol Cymru yn unol â'r agenda lleoleiddio.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) lunio strategaeth hydrogen i Gymru gyda'r nod o fod ymhlith y gwledydd sydd ar flaen y gad o ran datblygu'r sector newydd hwn;

b) sicrhau bod rheolaeth a pherchnogaeth Cymru o'r sector newydd hwn yn cael eu rheoli i'r eithaf fel rhan o'i strategaeth.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod Pleidleisio

Nid oedd cyfnod pleidleisio

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.54

NDM8026 Rhianon Passmore (Islwyn)

Adfywiad diwylliannol Cymreig ar ôl COVID? Y cynllun ar gyfer cerddoriaeth a mynediad i bawb.

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.14

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Mehefin 2022

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>